Arolwg Iechyd Cymru

 

 

If you would prefer to view this information in English please click here.

 

 

Gair am yr astudiaeth hon

Mae Arolwg Iechyd Cymru (AIC) yn cael ei gomisiynu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi gwybodaeth am iechyd pobl yng Nghymru. Dechreuodd AIC yn ei ffurf gyfredol yn 2003 a bu NatCen yn ymwneud â'r arolwg ers ei ddechrau.              

Gallwch ddarllen sut mae'r arolwg yn cael ei gynnal yn ogystal â chanfyddiadau astudiaeth llynedd yma. Mae meysydd pwnc yn cynnwys:

statws iechyd, fel iechyd cyffredinol a salwch maith,

penderfynyddion iechyd, gan gynnwys ysmygu, yfed alcohol a gweithgarwch corfforol, a

defnyddio'r gwasanaeth iechyd, gan gynnwys gwasanaethau meddyg teulu ysbyty a deintydd

Effaith bosibl ar bolisi

Mae AIC yn gwneud cyfraniad hanfodol at lywio a monitro strategaeth iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n amcangyfrif statws iechyd, penderfynyddion a defnydd gwasanaeth ar lefel genedlaethol a lleol (bwrdd iechyd ac awdurdod unedol) ac ar gyfer is-grwpiau allweddol.

Mae AIC hefyd yn cyfrannu at osod a monitro targedau a dangosyddion mewn strategaethau iechyd a fframweithiau Gwasanaeth Cenedlaethol, a datblygu cyd-strategaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles lleol.

 

Llinell amser

Welsh Health Survey - welsh

Dulliau

Mae AIC yn casglu data gan ryw 15,000 o oedolion a 3,000 o blant bob blwyddyn mewn 10,000 o aelwydydd yng Nghymru. Mae'n defnyddio holiadur papur byr ar aelwydydd, a holiaduron hunanlenwi i unigolion.                                               

Yn 2007 estynnwyd y broses o gasglu data ar gyfer plant 0-15 oed pan gyflwynwyd holiaduron hirach sy'n benodol i oedran, ac ar gyfer mesur taldra a phwysau plant rhwng 2 a 15 oed.

Ble i ganfod canlyniadau a data

Mae'r prif adroddiad a'r adroddiad technegol yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn ac mae set ddata'n cael ei chyflwyno i Archif Data'r DU.

  • Gallwch lawrlwytho a darllen crynodeb o ganfyddiadau'r arolwg diweddaraf yma
  • Cyhoeddir y prif adroddiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Ewch i'r wefan hon i weld yr adroddiadau diweddaraf a blaenorol.
  • Cyhoeddir yr adroddiad technegol gan NatCen a bydd ar gael ar ein gwefan cyn bo hir.
  • Yn 2009 aethom ati i werthuso pa mor dda mae'r arolwg yn bodloni anghenion defnyddwyr data. Yn gyffredinol roedd yr adborth yn gadarnhaol, ac yn dangos bod galw go iawn am ddata arolygon. Gallwch ddarllen yr adroddiad gwerthuso ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yma.

Researchers

 , ,